Cynghorau Ysgol
Y Cyngor Ysgol
Mae gan yr ysgol dri chyngor. Mae cynrychiolwyr ar gyfer disgyblion yr ysgol o flynyddoedd 3, 4, 5 a 6. Mae'r cynghorau yn cynnal cyfarfodydd cyson i drefnu digwyddiadau, gweithgareddau, digwyddiadau codi arian a hefyd yn gwrando ar syniadau disgyblion eraill am yr hyn y byddent yn ei hoffi am yr ysgol, datblygu'r ysgol ac mae'n amgylchedd.
Cyngor Eco
Mae Ysgol Llansteffan yn gwneud pob ymdrech i ofalu am ein hamgylchedd ac yn ein byd ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol. Mae gennym grŵp Cyngor Eco sydd yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif, drwy wneud eu gorau glas i godi ymwybyddiaeth y gymuned o faterion sy'n ymwneud â materion eco.
Cyngor Masnach Deg
Mae'r Cyngor Masnach Deg yn trfnu gweithgareddau sydd yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd Masnach Deg yn yr ysgol.